Terms and conditions of sale / Telerau ac amodau gwerthu

English / Cymraeg

Terms and conditions of sale

1. Introduction1.1    These terms and conditions shall govern the sale and purchase of products through our website.

1.2    You will be asked to give your express agreement to these terms and conditions before you place an order on our website.

1.3    This document does not affect any statutory rights you may have as a consumer (such as rights under the Consumer Contracts (Information, Cancellation and Additional Charges) Regulations 2013 or the Consumer Rights Act 2015).

2. Interpretation

2.1    In these terms and conditions:

(a)    “we” means Babi Bw Ltd.; and

(b)    “you” means our customer or prospective customer,

and “us”, “our” and “your” should be construed accordingly.

3. Order process

3.1    The advertising of products on our website constitutes an “invitation to treat” rather than a contractual offer.

3.2    No contract will come into force between you and us unless and until we accept your order in accordance with the procedure set out in this Section 3.

3.3    To enter into a contract through our website to purchase products from us, the following steps must be taken: you must add the products you wish to purchase to your shopping cart, and then proceed to the checkout; if you are a new customer, you must then create an account with us and log in; if you are an existing customer, you must enter your login details; once you are logged in, you must select your preferred method of delivery and confirm your order and your consent to the terms of this document; you will be transferred to our payment service provider’s website, and our payment service provider will handle your payment; we will then send you an initial acknowledgement; and once we have checked whether we are able to meet your order, we will either send you an order confirmation (at which point your order will become a binding contract) or we will confirm by email that we are unable to meet your order.

3.4    You will have the opportunity to identify and correct input errors prior to making your order.
4. Products

4.1    We may periodically change the products available on our website, and we do not undertake to continue to supply any particular product or type of product.

4.2    Due to the limitations and the relative inconsistencies of various display monitors, the colours you see on your screen may not be a totally accurate reproduction of the actual product. We strive to make our colours as accurate as possible, but screen images are intended as a guide only and should not be regarded as absolutely correct.

5. Prices

5.1    Our prices are quoted on our website.

5.2    We will from time to time change the prices quoted on our website, but this will not affect contracts that have previously come into force.

5.3    All amounts stated in these terms and conditions or on our website are stated inclusive of VAT.

5.4    It is possible that prices on the website may be incorrectly quoted; accordingly, we will verify prices as part of our sale procedures so that the correct price will be notified to you before the contract comes into force.

5.5    In addition to the price of the products, you will have to pay a delivery charge, which will be notified to you before the contract of sale comes into force.
6. Payments

6.1    You must, during the checkout process, pay the prices of the products you order.

6.2    Payments may be made by any of the permitted methods specified on our website.

6.3    If you fail to pay to us any amount due under these terms and conditions in accordance with the provisions of these terms and conditions, then we may withhold the products ordered and/or by written notice to you at any time cancel the contract of sale for the products.

6.4    If you make an unjustified credit card, debit card or other charge-back then you will be liable to pay us, within 7 days following the date of our written request:

(a)    an amount equal to the amount of the charge-back;

(b)    all third party expenses incurred by us in relation to the charge-back (including charges made by our or your bank or payment processor or card issuer);

(c)    an administration fee of GBP 25.00 including VAT; and

(d)    all our reasonable costs, losses and expenses incurred in recovering the amounts referred to in this Section 6.4 (including without limitation legal fees and debt collection fees),

and for the avoidance of doubt, if you fail to recognise or fail to remember the source of an entry on your card statement or other financial statement, and make a charge-back as a result, this will constitute an unjustified charge-back for the purposes of this Section 6.4.
7. Deliveries

7.1    Our policies and procedures relating to the delivery of products are set out in this Section 7.

7.2    We will arrange for the products you purchase to be delivered to the delivery address you specify during the checkout process.

7.3    We will use reasonable endeavours to deliver your products on or before the date for delivery set out in the order confirmation or, if no date is set out in the order confirmation, within 7 days following the date of the order confirmation; however, we do not guarantee delivery by this date.

7.4    We do guarantee that, unless there are exceptional circumstances, all deliveries of products will be dispatched within 30 days following either the receipt of payment and/or the date of the order confirmation.

8. Distance contracts: cancellation right

8.1    This Section 8 applies if and only if you offer to contract with us, or contract with us, as a consumer – that is, as an individual acting wholly or mainly outside your trade, business, craft or profession.

8.2    You may withdraw an offer to enter into a contract with us through our website or cancel a contract entered into with us through our website (without giving any reason for your withdrawal or cancellation) at any time within the period:

(a)    beginning upon the submission of your offer; and

(b)    ending at the end of 14 days after the day on which the products come into your physical possession or the physical possession of a person identified by you to take possession of them (or, if the contract is for delivery of multiple products, lots or pieces of something, 14 days after the day on which the last of those products, lots or pieces comes into your physical possession or the physical possession of a period identified by you to take possession of them).

8.3    In order to withdraw an offer to contract or cancel a contract on the basis described in this Section 8, you must inform us of your decision to withdraw or cancel (as the case may be). You may inform us by means of any clear statement setting out the decision. In the case of cancellation, you may inform us using the cancellation form that we will make available to you on request. To meet the cancellation deadline, it is sufficient for you to send your communication concerning the exercise of the right to cancel before the cancellation period has expired.

8.4    If you cancel a contract on the basis described in this Section 8, you must send the products back to us (to our return address) or hand them over to us or a person authorised by us to receive them. You must comply with your obligations referred to in this Section 8 without undue delay and in any event not later than 14 days after the day on which you inform us of your decision to cancel the contract. You must pay the direct cost of returning the products.

8.5    If you cancel an order in accordance with this Section 8, you will receive a full refund of the amount you paid to us in respect of the order including the costs of delivery to you, except:

(a)    if you chose a kind of delivery costing more than the least expensive kind of delivery that we offer, we reserve the right to retain the difference in cost between the kind of delivery you chose and the least expensive kind of delivery that we offer; and

(b)    as otherwise provided in this Section 8.

8.6    If the value of the products returned by you is diminished by any amount as a result of the handling of those products by you beyond what is necessary to establish the nature, characteristics and functioning of the products, we may recover that amount from you up to the contract price. We may recover that amount by deducting it from any refund due to you or require you to pay that amount direct to us. Handling which goes beyond the sort of handling that might reasonably be allowed in a shop will be “beyond what is necessary to establish the nature, characteristics and functioning of the products” for these purposes.

8.7    We will refund money using the same method used to make the payment, unless you have expressly agreed otherwise. In any case, you will not incur any fees as a result of the refund.

8.8    Unless we have offered to collect the products, we will process a refund due to you as a result of a cancellation on the basis described in this Section 8 within the period of 14 days after the day on which we receive the returned products or (if earlier) after the day on which you supply to us evidence of having sent the products back. If we have not sent the products to you at the time of withdrawal or cancellation or have offered to collect the products, we will process a refund due to you without undue delay and, in any case, within the period of 14 days after the day on which we are informed of the withdrawal or cancellation.

8.9    You will not have any right to cancel a contract as described in this Section 8 insofar as the contract relates to:

(a)    the supply of sealed goods which are not suitable for return due to health protection or hygiene reasons, where such goods have been unsealed by you;

8. Warranties and representations

9.1    You warrant and represent to us that:

(a)    you are legally capable of entering into binding contracts;

(b)    you have full authority, power and capacity to agree to these terms and conditions;

(c)    all the information that you provide to us in connection with your order is true, accurate, complete and non-misleading; and

(d)    you will be able to take delivery of the products in accordance with these terms and conditions and our delivery policy.

9.2    We warrant to you that:

(a)    we have the right to sell the products that you buy;

(b)    the products we sell to you are sold free from any charge or encumbrance, except as specified in these terms and conditions;

(c)    you shall enjoy quiet possession of the products you buy, except as specified in these terms and conditions;

(d)    the products you buy will correspond to any description published on our website; and

(e)    the products you buy will be of satisfactory quality.

9.3    All of our warranties and representations relating to the supply of products are set out in these terms and conditions. To the maximum extent permitted by applicable law and subject to Section 10.1, all other warranties and representations are expressly excluded.

10. Limitations and exclusions of liability

10.1  Nothing in these terms and conditions will:

(a)    limit or exclude any liability for death or personal injury resulting from negligence;

(b)    limit or exclude any liability for fraud or fraudulent misrepresentation;

(c)    limit any liabilities in any way that is not permitted under applicable law; or

(d)    exclude any liabilities that may not be excluded under applicable law,

and, if you are a consumer, your statutory rights will not be excluded or limited by these terms and conditions, except to the extent permitted by law.

10.2  The limitations and exclusions of liability set out in this Section 10 and elsewhere in these terms and conditions:

(a)    are subject to Section 10.1; and

(b)    govern all liabilities arising under these terms and conditions or relating to the subject matter of these terms and conditions, including liabilities arising in contract, in tort (including negligence) and for breach of statutory duty, except to the extent expressly provided otherwise in these terms and conditions.

10.3  We will not be liable to you in respect of any losses arising out of any event or events beyond our reasonable control.

10.4  We will not be liable to you in respect of any business losses, including (without limitation) loss of or damage to profits, income, revenue, use, production, anticipated savings, business, contracts, commercial opportunities or goodwill.

10.5  You accept that we have an interest in limiting the personal liability of our officers and employees and, having regard to that interest, you acknowledge that we are a limited liability entity; you agree that you will not bring any claim personally against our officers or employees in respect of any losses you suffer in connection with the website or these terms and conditions (this will not, of course, limit or exclude the liability of the limited liability entity itself for the acts and omissions of our officers and employees).

11. Order cancellation

11.1  We may cancel a contract under these terms and conditions immediately, by giving you written notice of termination, if:

(a)    you fail to pay, on time and in full, any amount due to us under that contract; or

(b)    you commit any material breach of that contract.

11.2  You may cancel a contract under these terms and conditions immediately, by giving us written notice of termination, if we commit any material breach of that contract.

11.3  We may cancel a contract under these terms and conditions by written notice to you if we are prevented from fulfilling that contract by any event beyond our reasonable control, including without limitation any unavailability of raw materials, components or products, or any power failure, industrial dispute affecting any third party, governmental regulations, fire, flood, disaster, riot, terrorist attack or war.

12. Consequences of order cancellation

12.1  If a contract under these terms and conditions is cancelled in accordance with Section 11:

(a)    we will cease to have any obligation to deliver products which are undelivered at the date of cancellation;

(b)    you will continue to have an obligation where applicable to pay for products which have been delivered at the date of cancellation (without prejudice to any right we may have to recover the products); and

(c)    all the other provisions of these terms and conditions will cease to have effect, except that Sections 1.3, 6.4, 10, 15, 16, 17, 18, 19 and 20 will survive termination and continue in effect indefinitely.

13. Scope

13.1  These terms and conditions shall not constitute or effect any assignment or licence of any intellectual property rights.

13.2  These terms and conditions shall not govern the licensing of works (including software and literary works) comprised or stored in products.

13.3  These terms and conditions shall not govern the provision of any services by us or any third party in relation to the products (other than delivery services).

14. Variation

14.1  We may revise these terms and conditions from time to time by publishing a new version on our website.

14.2  A revision of these terms and conditions will apply to contracts entered into at any time following the time of the revision, but will not affect contracts made before the time of the revision.

15. Assignment

15.1  You hereby agree that we may assign, transfer, sub-contract or otherwise deal with our rights and/or obligations under these terms and conditions – providing, if you are a consumer, that such action does not serve to reduce the guarantees benefiting you under these terms and conditions.

15.2  You may not without our prior written consent assign, transfer, sub-contract or otherwise deal with any of your rights and/or obligations under these terms and conditions.

16. No waivers

16.1  No breach of any provision of a contract under these terms and conditions will be waived except with the express written consent of the party not in breach.

16.2  No waiver of any breach of any provision of a contract under these terms and conditions shall be construed as a further or continuing waiver of any other breach of that provision or any breach of any other provision of that contract.

17. Severability

17.1  If a provision of these terms and conditions is determined by any court or other competent authority to be unlawful and/or unenforceable, the other provisions will continue in effect.

17.2  If any unlawful and/or unenforceable provision of these terms and conditions would be lawful or enforceable if part of it were deleted, that part will be deemed to be deleted, and the rest of the provision will continue in effect.

18. Third party rights

18.1  A contract under these terms and conditions is for our benefit and your benefit, and is not intended to benefit or be enforceable by any third party.

18.2  The exercise of the parties’ rights under a contract under these terms and conditions is not subject to the consent of any third party.

19. Entire agreement

19.1  Subject to Section 10.1, these terms and conditions, together with our delivery policy and our returns policy, shall constitute the entire agreement between you and us in relation to the sale and purchase of our products and shall supersede all previous agreements between you and us in relation to the sale and purchase of our products.

20. Law and jurisdiction

20.1  These terms and conditions shall be governed by and construed in accordance with English law.

20.2  Any disputes relating to these terms and conditions shall be subject to the  non-exclusive jurisdiction of the courts of England.

21. Statutory and regulatory disclosures

21.1  We will not file a copy of these terms and conditions specifically in relation to each user or customer and, if we update these terms and conditions, the version to which you originally agreed will no longer be available on our website. We recommend that you consider saving a copy of these terms and conditions for future reference.

21.2  These terms and conditions are available in English and Welsh.

21.3  Our VAT number is 197 6182 61.

22. Our details

22.1  This website is owned and operated by Babi Bw Ltd.

22.2  We are registered in England and Wales under registration number 09271010.

22.3  Our principal place of business is at PO Box 123, Caldicot, NP26 9BH.

22.4  You can contact us:

(a)    by post, using the postal address given above;

(b)    using our website contact form;

(c)    by telephone, on the contact number published on our website; or

(d)    by email, using the email address published on our website.

Telerau ac amodau gwerthu

1. Cyflwyniad

1.1    Bydd y telerau ac amodau hyn yn llywodraethu’r broses o werthu a phrynu nwyddau drwy ein gwefan.

1.2    Bydd gofyn i chi gytuno i’r telerau ac amodau hyn cyn archebu ar ein gwefan.

1.3    Nid yw’r ddogfen hon yn effeithio ar unrhyw hawliau statudol a all fod gennych fel defnyddiwr (fel hawliau o dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013 neu Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015).

2. Dehongliad

2.1    Yn y telerau ac amodau hyn:

(a)    mae “ni” yn golygu Babi Bw Ltd.; a

(b)    “chi” yn golygu ein cwsmer neu ddarpar gwsmer,

        a dylid dehongli “ni”, “ein” ac “eich” yn unol â hynny.

3. Proses archebu

3.1    Mae hysbysebu nwyddau ar ein gwefan yn golygu “gwahoddiad i drafod” yn hytrach na chynnig cytundebol.

3.2    Ni fydd unrhyw gontract yn dod i rym rhyngoch chi a ni oni bai a nes ein bod ni’n derbyn eich archeb yn unol â’r weithdrefn a nodir yn yr Adran 3 hon.

3.3    I ffurfio contract drwy ein gwefan i brynu nwyddau gennym ni, mae’n rhaid dilyn y camau canlynol: mae’n rhaid i chi ychwanegu’r nwyddau rydych am eu prynu i’ch basged siopa, yna mynd ymlaen i dalu; os ydych yn gwsmer newydd bydd rhaid i chi greu cyfrif gyda ni a mewngofnodi; os ydych yn gwsmer cyfredol bydd rhaid i chi roi eich manylion mewngofnodi; ar ôl mewngofnodi mae’n rhaid i chi ddewis eich dull dosbarthu a chadarnhau eich archeb a chytuno i delerau’r ddogfen hon; byddwch yn cael eich trosglwyddo i wefan ein darparwr gwasanaeth talu a fydd yn ymdrin â’ch taliad; yna byddwn yn anfon cydnabyddiaeth gychwynnol atoch chi; unwaith y byddwn wedi gwirio ein bod ni’n gallu darparu’ch archeb byddwn naill ai’n anfon cadarnhad o’ch archeb (bydd eich archeb yn dod yn gontract rhwymol bryd hynny) neu byddwn yn anfon e-bost i gadarnhau na allwn ddarparu’ch archeb.

3.4    Cewch gyfle i nodi a chywiro camgymeriadau mewnbynnu cyn cyflwyno’ch archeb.

4. Nwyddau

4.1    Efallai y byddwn yn newid y nwyddau sydd ar gael ar ein gwefan o dro i dro, ac nid ydym yn addo parhau i gyflenwi unrhyw nwyddau neu fath o nwyddau penodol.

5. Prisiau

5.1    Mae ein prisiau i’w gweld ar ein gwefan.

5.2    Byddwn yn newid y prisiau sydd i’w gweld ar ein gwefan o dro i dro, ond ni fydd hyn yn effeithio ar gontractau a ddaeth i rym cyn hynny.

5.3    Mae’r holl symiau sydd wedi’u nodi yn y telerau a’r amodau hyn neu ar ein gwefan yn cynnwys TAW.

5.4    Mae’n bosibl i brisiau ar ein gwefan fod yn anghywir; byddwn yn gwirio prisiau fel rhan o’n gweithdrefnau gwerthu er mwyn i chi gael gwybod beth yw’r pris cywir cyn i’r contract ddod i rym.

5.5    Yn ogystal â phris y nwyddau bydd rhaid i chi dalu tâl dosbarthu, y cewch wybod amdano cyn i’r contract gwerthu ddod i rym.

6. Taliadau

6.1    Mae’n rhaid i chi dalu prisiau’r nwyddau rydych yn eu harchebu yn ystod y broses dalu.

6.2    Gellir talu drwy unrhyw un o’r dulliau a ganiateir sydd wedi’u nodi ar ein gwefan.

6.3    Os ydych yn methu talu unrhyw swm sy’n ddyledus o dan y telerau ac amodau hyn yn unol â darpariaethau’r telerau ac amodau hyn, efallai y byddwn yn dal y nwyddau a archebwyd yn ôl a/neu’n canslo’r contract gwerthu ar gyfer y nwyddau drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig atoch ar unrhyw adeg.

6.4    Os ydych chi’n hawlio taliad yn ôl (“charge-back”) drwy gerdyn credyd, cerdyn debyd neu ddull arall na ellir ei gyfiawnhau byddwch yn atebol i dalu’r canlynol i ni o fewn 7 diwrnod i ddyddiad ein cais ysgrifenedig:

(a)    swm sy’n gyfwerth â’r taliad a hawliwyd yn ôl;

(b)    yr holl dreuliau trydydd parti a gaiff eu gwario gennym ni mewn perthynas â hawlio taliad yn ôl (yn cynnwys taliadau a godir gan ein banc ni neu’ch banc chi neu brosesydd taliadau neu roddwr cerdyn);

(c)    ffi weinyddol o £25.00 yn cynnwys TAW;

(d)    ein holl gostau, colledion a threuliau rhesymol eraill yr eir iddynt i adfer y symiau y cyfeirir atynt yn yr Adran 6.4 hon (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, ffioedd cyfreithiol a ffioedd casglu dyledion),

ac er mwyn osgoi amheuaeth, os ydych yn methu adnabod neu fethu cofio ffynhonnell cofnod ar eich datganiad cerdyn neu ddatganiad ariannol arall, ac yn hawlio taliad yn ôl o ganlyniad i hynny, bydd hyn yn gyfystyr â hawlio taliad yn ôl yn anghyfiawn at ddibenion yr Adran 6.4 hon.

7. Dosbarthu Nwyddau

7.1    Mae ein polisïau a gweithdrefnau ar ddosbarthu nwyddau i’w gweld yn yr Adran 7 hon.

7.2    Byddwn yn trefnu ddosbarthu’r nwyddau rydych yn eu prynu i’r cyfeiriad dosbarthu a nodir gennych yn ystod y broses dalu.

7.3    Byddwn yn ymdrechu’n rhesymol i ddosbarthu’ch nwyddau ar neu cyn y dyddiad dosbarthu a nodir yn y cadarnhad o’ch archeb neu, os nad yw’r cadarnhad o’ch archeb yn nodi dyddiad, o fewn 7 diwrnod yn dilyn dyddiad y cadarnhad o’ch archeb; fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu dosbarthu erbyn y dyddiad hwn.

7.4    Rydym yn gwarantu, oni bai fod yna amgylchiadau eithriadol, y byddwn yn dosbarthu nwyddau o fewn 30 diwrnod yn dilyn derbyn taliad a/neu ddyddiad y cadarnhad o’ch archeb.

8. Contractau pellter: hawl canslo

8.1    Dim ond os byddwch ac os ydych chi’n cynnig ffurfio contract gyda ni, neu’n ffurfio contract gyda ni fel defnyddiwr y bydd yr Adran 8 hon yn berthnasol – hynny yw, fel unigolyn sy’n gweithredu’n gyfan gwbl neu’n bennaf y tu allan i’ch masnach, busnes, crefft neu broffesiwn.

8.2    Gallwch dynnu cynnig i ffurfio contract gyda ni yn ôl drwy’n gwefan neu drwy ganslo contract a ffurfiwyd gyda ni drwy’n gwefan (heb roi unrhyw reswm dros dynnu’n ôl neu ganslo) ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod:

(a)    sy’n cychwyn adeg cyflwyno’ch cynnig; a

(b)    sy’n gorffen ar ddiwedd yr 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y daw’r nwyddau i’ch meddiant corfforol neu feddiant corfforol person a nodwyd gennych chi i gymryd meddiant ohonynt (neu, os yw’r contract ar gyfer dosbarthu llawer o nwyddau, eitemau neu ddarnau o rywbeth, 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y daw’r olaf o’r nwyddau, eitemau neu ddarnau hyn i’ch meddiant corfforol neu feddiant corfforol person a nodwyd gennych chi i gymryd meddiant ohonynt).

8.3    Er mwyn tynnu cynnig o gontract yn ôl neu ganslo contract ar y sail a ddisgrifir yn yr Adran 8 hon, mae’n rhaid i chi ein hysbysu o’ch penderfyniad i dynnu yn ôl neu ganslo (beth bynnag fo’r achos). Gallwch ein hysbysu drwy unrhyw ddatganiad clir yn egluro’r penderfyniad. Yn achos canslo, gallwch ein hysbysu trwy ddefnyddio’r ffurflen ganslo y byddwn yn ei darparu i chi ar gais. Er mwyn canslo cyn y terfyn amser ar gyfer canslo mae angen i chi anfon eich gohebiaeth ynglŷn â gweithredu’ch hawl i ganslo cyn i’r cyfnod canslo ddod i ben.

8.4    Os ydych yn canslo contract ar y sail a ddisgrifir yn yr Adran 8 hon mae’n rhaid i chi anfon y nwyddau’n ôl atom ni (i’n cyfeiriad dychwelyd) neu eu trosglwyddo i ni neu berson a awdurdodir gennym i’w derbyn. Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’ch rhwymedigaethau y cyfeirir atynt yn yr Adran 8 hon heb oedi diangen a beth bynnag, ddim hwyrach nag 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y byddwch chi’n ein hysbysu ni o’ch penderfyniad i ganslo’r contract. Mae’n rhaid i chi dalu cost uniongyrchol dychwelyd y nwyddau.

8.5    Os ydych yn canslo archeb yn unol â’r Adran 8 hon byddwch yn derbyn ad-daliad llawn o’r swm a daloch i ni mewn perthynas â’ch archeb yn cynnwys y costau dosbarthu atoch chi, ac eithrio:

(a)    os ydych chi’n dewis dull dosbarthu sy’n costio mwy na’r dull dosbarthu rhataf a gynigiwn, rydym yn cadw’r hawl i gadw’r gwahaniaeth yn y gost rhwng y dull dosbarthu a ddewisoch a’r dull dosbarthu rhataf a gynigiwn; a

(b)    fel y nodir fel arall yn Adran 8.

8.6    Os yw gwerth y nwyddau sy’n cael eu dychwelyd gennych yn gostwng o gwbl yn sgil trafod y nwyddau hynny gennych chi y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen i wybod beth yw natur, nodweddion a swyddogaeth y nwyddau, gallwn adfer y swm gennych hyd at bris y contract. Gallwn adfer y swm drwy ei dynnu o unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi neu ofyn i chi dalu’r swm hwnnw’n uniongyrchol i ni. Bydd trafod sy’n mynd y tu hwnt i’r math o drafod y gellir ei ganiatáu’n rhesymol mewn siop fod “y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen i wybod beth yw natur, nodweddion a swyddogaeth y nwyddau” at y dibenion hyn.

8.7    Byddwn yn ad-dalu unrhyw arian gan ddefnyddio’r un dull a ddefnyddiwyd i wneud y taliad, oni bai eich bod wedi cytuno’n benodol fel arall. Beth bynnag fo’r achos, ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd o ganlyniad i’r ad-daliad.

8.8    Oni bai ein bod ni wedi cynnig casglu’r nwyddau, byddwn yn prosesu ad-daliad sy’n ddyledus i chi yn sgil canslo ar y sail a ddisgrifir yn yr Adran 8 hon o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y derbyniwn y nwyddau a ddychwelir neu (os yn gynharach) ar ôl y diwrnod y darparwch dystiolaeth i ni o anfon y nwyddau’n ôl. Os nad ydym wedi anfon y nwyddau atoch chi ar yr adeg yr ydych yn tynnu yn ôl neu’n canslo neu ein bod wedi cynnig casglu’r nwyddau, byddwn yn prosesu ad-daliad sy’n ddyledus i chi heb oedi diangen a, beth bynnag fo’r achos, o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl y diwrnod yr hysbysir ni o’r tynnu yn ôl neu ganslo.

8.9    Ni fydd gennych unrhyw hawl i ganslo contract fel y disgrifir yn yr Adran 8 hon os yw’r contract yn ymwneud â

(a)    chyflenwi nwyddau wedi’u selio nad ydynt yn addas i’w dychwelyd yn sgil rhesymau diogelu iechyd neu hylendid, lle mae nwyddau o’r fath wedi’u datselio gennych chi;

9. Gwarantau a datganiadau

9.1    Rydych yn gwarantu ac yn datgan wrthym ni:

(a)    y gallwch ymrwymo’n gyfreithiol i gontractau rhwymol;

(b)    bod gennych chi awdurdod, pŵer a chymhwyster llawn i gytuno i’r telerau ac amodau hyn;

(c)    bod yr holl wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni ynghylch eich archeb yn wir, cywir, cyflawn ac nad yw’n gamarweiniol; ac

(d)    y byddwch yn gallu derbyn dosbarthiad y nwyddau hyn yn unol â’r telerau ac amodau hyn a’n polisi dosbarthu nwyddau.

9.2    Rydym yn gwarantu i chi:

(a)    bod gennym hawl i werthu’r nwyddau rydych yn eu prynu;

(b)    bod y nwyddau rydym yn eu gwerthu i chi yn cael eu gwerthu heb unrhyw dâl neu ddilyffethair, ac eithrio fel y nodir yn y telerau ac amodau hyn;

(c)    y byddwch yn mwynhau’r nwyddau a brynwch heb unrhyw ymyrraeth, ac eithrio fel y nodir yn y telerau ac amodau hyn;

(d)    y bydd y nwyddau rydych chi’n eu prynu yn cyfateb i unrhyw ddisgrifiad a gyhoeddir ar ein gwefan;

(e)    y bydd y nwyddau rydych chi’n eu prynu o safon foddhaol.

9.3    Mae’n holl warantau a datganiadau sy’n ymwneud â chyflenwi nwyddau i’w gweld yn y telerau ac amodau hyn. I’r graddau eithaf a ganiateir gan gyfraith berthnasol ac yn ddarostyngedig Adran 10.1, mae pob gwarant a datganiad arall wedi’u heithrio’n benodol.

10. Cyfyngiadau ac eithriadau atebolrwydd

10.1  Ni fydd unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn:

(a)    cyfyngu ar, neu eithrio unrhyw atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol yn deillio o esgeulustod;

(b)    cyfyngu ar, neu eithrio unrhyw atebolrwydd am dwyll neu gamddatganiadau twyllodrus;

(c)    cyfyngu ar unrhyw atebolrwydd mewn unrhyw ffordd na chaniateir o dan gyfraith gymwys; neu

(d)    eithrio unrhyw atebolrwydd a all fod heb ei eithrio o dan gyfraith gymwys

        ac, os ydych chi’n ddefnyddiwr, ni fydd eich hawliau statudol yn cael eu heithrio neu eu cyfyngu gan y telerau ac amodau hyn, ac eithrio i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith.

10.2  Mae’r cyfyngiadau a’r eithriadau atebolrwydd sydd i’w gweld yn yr Adran 10 hon ac mewn mannau eraill yn y telerau ac amodau hyn:

(a)    yn ddarostyngedig i Adran 10.1; ac

(b)    yn llywodraethu unrhyw atebolrwydd sy’n codi o dan y telerau ac amodau hyn neu sy’n ymwneud â phwnc y telerau ac amodau hyn, yn cynnwys atebolrwydd sy’n codi mewn contract, mewn cyfraith camweddau (yn cynnwys esgeulustod) ac am dorri dyletswydd statudol, ac eithrio i’r graddau a ddarparwyd yn unswydd fel arall yn y telerau ac amodau hyn.

10.3  Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion sy’n deillio o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

10.4  Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion busnes, yn cynnwys (heb gyfyngiad) colli neu niwed i elw, incwm, refeniw, defnydd, cynhyrchu, arbedion a ragwelir, busnes, contractau, cyfleoedd masnachol neu ewyllys da.

10.5  Rydych yn derbyn fod gennym ni fuddiant mewn cyfyngu ar atebolrwydd personol ein swyddogion a’n gweithwyr ac, o ystyried y buddiant hwnnw, rydych yn cydnabod ein bod yn endid atebolrwydd cyfyngedig; rydych yn cytuno na fyddwch yn cyflwyno unrhyw hawliad personol yn erbyn ein swyddogion neu weithwyr mewn perthynas ag unrhyw golledion a gewch mewn cysylltiad â’r wefan neu’r telerau ac amodau hyn (ni fydd hyn, wrth gwrs, yn cyfyngu ar, neu’n eithrio atebolrwydd yr endid atebolrwydd cyfyngedig ei hun am weithredoedd a hepgoriadau ein swyddogion a’n gweithwyr).

11. Canslo archeb

11.1  Gallwn ganslo contract o dan y telerau ac amodau hyn yn syth, drwy roi rhybudd terfynu ysgrifenedig i chi, os ydych:

(a)    yn methu talu, ar amser ac yn llawn, unrhyw swm sy’n ddyledus i ni o dan y contract hwnnw;

(b)    yn torri’r contract i raddau o bwys.

11.2  Gallwch ganslo contract o dan y telerau ac amodau hyn yn syth, drwy roi rhybudd terfynu ysgrifenedig i ni, os ydym yn torri’r contract i raddau o bwys.

11.3  Gallwn ganslo contract o dan y telerau ac amodau hyn drwy rybudd ysgrifenedig i chi os ydym yn cael ein hatal rhag cyflawni’r contract hwnnw gan unrhyw ddigwyddiad sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, yn cynnwys heb gyfyngu ar argaeledd deunyddiau crai, cydrannau neu gynhyrchion, neu unrhyw doriad trydan, anghydfod diwydiannol, sy’n effeithio ar unrhyw drydydd parti, rheoliadau llywodraeth, tân, llifogydd, trychineb, terfysg, ymosodiad terfysgol neu ryfel.

12. Canlyniadau canslo archeb

12.1  Os yw contract o dan y telerau ac amodau hyn yn cael ei ganslo yn unol ag Adran 11:

(a)    ni fydd gennym unrhyw rwymedigaeth mwyach i ddosbarthu nwyddau sydd heb eu dosbarthu ar y dyddiad canslo;

(b)    bydd gennych rwymedigaeth o hyd lle bo’n berthnasol i dalu (am y nwyddau sydd wedi’u dosbarthu ar y diwrnod canslo (heb leihau effaith unrhyw hawl a all fod gennym i adfer y nwyddau); a

(c)    bydd holl ddarpariaethau eraill y telerau ac amodau hyn yn dod i ben, ac eithrio y bydd Adrannau 1.3, 6.4, 10, 15, 16, 17, 18, 19 ac 20 yn goroesi’r ôl terfynu ac yn parhau mewn grym am gyfnod amhenodol.

13. Cwmpas

13.1  Ni fydd y telerau ac amodau hyn yn gyfystyr ag neu’n effeithio ar unrhyw neilltuo neu drwyddedau unrhyw hawliau eiddo deallusol.

13.2  Ni fydd y telerau ac amodau hyn yn llywodraethu trwyddedu gwaith (yn cynnwys meddalwedd a gwaith llenyddol) sydd wedi’i gynnwys neu’i gadw mewn nwyddau.

13.3  Ni fydd y telerau ac amodau hyn yn llywodraethu unrhyw ddarpariaeth gwasanaethau gennym ni neu unrhyw drydydd parti mewn perthynas â’r nwyddau (ac eithrio gwasanaethau dosbarthu).

14. Amrywiad

14.1  Gallwn ddiwygio’r telerau ac amodau hyn o dro i dro drwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan.

14.2  Bydd diwygiad i’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i gontractau a lunnir ar unrhyw adeg yn dilyn yr amser diwygio, ond ni fydd yn effeithio ar gontractau a wnaed cyn yr amser diwygio.

15. Aseinio

15.1  Rydych drwy hyn yn cytuno y gallwn aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu ymdrin fel arall â’n hawliau a/neu’n rhwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn – cyn belled, os ydych chi’n ddefnyddiwr, nad yw unrhyw gam o’r fath yn lleihau’r gwarantau rydych chi’n elwa arnynt o dan y telerau ac amodau hyn.

15.2  Ni allwch heb ein caniatâd ysgrifenedig ni ymlaen llaw aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu ymdrin fel arall ag unrhyw un o’ch hawliau a/neu’ch rhwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn.

16. Dim hawlildiadau

16.1  Ni fydd torri unrhyw ddarpariaeth mewn contract o dan y telerau ac amodau hyn yn cael ei hawlildio ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig y parti sydd heb dorri’r contract.

16.2  Ni fydd hawlildio unrhyw achos o dorri darpariaeth contract o dan y telerau ac amodau hyn yn cael ei ystyried fel hawlildiad pellach neu barhaus o unrhyw achos arall o dorri’r ddarpariaeth honno neu unrhyw achos o dorri unrhyw ddarpariaeth arall yn y contract hwnnw.

17. Toradwyedd

17.1  Os yw llys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod darpariaeth yn y telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon a/neu’n amhosibl i’w gorfodi bydd y darpariaethau eraill yn parhau mewn grym.

17.2  Pe bai unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu amhosibl i’w gorfodi yn y telerau ac amodau hyn yn gyfreithlon ac yn bosibl i’w gorfodi o ddileu rhan ohoni, byddai’r rhan honno’n cael ei hystyried fel pe bai wedi’i dileu a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau mewn grym.

18. Hawliau trydydd parti

18.1  Mae contract o dan y telerau ac amodau hyn er ein budd ni a’ch budd chi, ac nid yw wedi’i fwriadu i fod o fudd neu i gael ei orfodi gan unrhyw drydydd parti.

18.2  Nid oes rhaid cael caniatâd trydydd parti i arfer hawliau y partïon o dan gontract o dan y telerau ac amodau hyn.

19. Y cytundeb cyfan

19.1  Yn amodol ar Adran 10.1, bydd y telerau ac amodau hyn, ynglŷn â’n polisi dosbarthu a’n polisi dychwelyd, yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â gwerthu a phrynu’n nwyddau ac yn disodli unrhyw gytundebau blaenorol rhyngoch chi a ni mewn perthynas â gwerthu a phrynu ein nwyddau.

20. Cyfraith ac awdurdodaeth

20.1  Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Loegr.

20.2  Bydd unrhyw anghydfod ynghylch y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth anghyfyngedig llysoedd Lloegr.

21. Datgeliadau statudol a rheoliadol

21.1  Ni fyddwn yn cadw copi o’r telerau ac amodau hyn yn benodol ar gyfer pob defnyddiwr neu gwsmer ac, os ydym yn diweddaru’r telerau ac amodau hyn, ni fydd y fersiwn y cytunoch chi iddi’n wreiddiol ar gael ar ein gwefan mwyach. Rydym yn argymell i chi ystyried cadw copi o’r telerau ac amodau hyn i gyfeirio atynt yn y dyfodol.

21.2  Mae’r telerau ac amodau hyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

21.3  Ein rhif TAW yw 197 6182 61.

22. Ein manylion

22.1  Mae’r wefan hon yn eiddo i Babi Bw Ltd ac yn cael ei rhedeg ganddo.

22.2  Rydym wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 09271010.

22.3  Ein prif leoliad busnes yw Blwch Swyddfa Bost 123, Cil-y-coed, NP26 9BH.

22.4  Gallwn gysylltu â ni:

(a)    drwy’r post, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post uchod;

(b)    drwy ddefnyddio’n ffurflen gysylltu ar y wefan;

(c)    dros y ffôn, ar y rhif cyswllt sydd ar ein gwefan;

(d)     drwy e-bost, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost sydd ar ein gwefan.