Returns Policy / Polisi Dychwelyd Nwyddau

English / Cymraeg

Returns Policy

1. Introduction

1.1    We understand that from time to time you may wish to return a product to us.

1.2    We have created this policy to enable you to return products to us in appropriate circumstances.

1.3    This policy shall apply to all of our customers, irrespective of their geographical location.

1.4    This policy shall apply to all orders submitted through our website.

1.5    This document does not affect any statutory rights you may have as a consumer (such as rights under the Consumer Contracts (Information, Cancellation and Additional Charges) Regulations 2013 or the Consumer Rights Act 2015).

2. Returns

2.1    If you have no other legal right to return a product and receive a refund or exchange, then you will nonetheless be entitled to return a product to us and receive a refund in accordance with this policy if:

(a)    we receive the returned product within 14 days following the date of delivery of the product to you;

(b)    the returned product is unused, in its original unopened packaging (with any seal or shrink-wrap intact), with any labels still attached, and otherwise in a condition enabling us to sell the product as new;

(c)    you comply with the procedure set out in this policy in relation to the return of the product; and

(d)    none of the exclusions set out in this policy apply.

3. Returns procedure

3.1    In order to take advantage of your rights under this policy, you must contact us to obtain a return authorisation number, and then send the product to us with a covering note quoting that number.

3.2    Products returned under this policy, in the UK, must be sent via Royal Mail to PO Box 123, Caldicot, NP26 9BH.

3.3    If the package is returned unopened because of a change of mind, the buyer will pay postage costs associated with the return of products in accordance with this policy.

4. Refunds

4.1    We will give you a refund for the price you paid to us in respect of any product properly returned by you in accordance with this policy.

4.2    We will usually refund any money received from you using the same method originally used by you to pay for your purchase.

4.3    We will process the refund due to you as soon as possible and, in any event, within 30 days following the date we receive your returned product.

5. Improper returns

5.1    If you return a product in contravention of this policy and you do not have any other legal right to a refund or exchange in respect of that product:

(a)    we will not refund the purchase price or exchange the product;

(b)    we may retain the returned product until you pay to us such additional amount as we may charge for re-delivery of the returned product; and

(c)    if we do not receive payment of such additional amount within 14 days of issuing a request for payment, we may destroy or otherwise dispose of the returned product in our sole discretion without any liability to you.

6. Our details

6.1    This website is owned and operated by Babi Bw Ltd.

6.2    Our principal place of business is at PO Bpx 123, Caldicot, NP26 9BH.

6.3    You can contact us:

(a)    by post, using the postal address given above;

(b)    using our website contact form;

(c)    by telephone, on the contact number published on our website; or

(d)    by email, using the email address published on our website.

 

Polisi Dychwelyd Nwyddau

1. Cyflwyniad

1.1 Rydym yn deall y gallech ddymuno dychwelyd nwyddau atom o bryd i’w gilydd.

1.2 Rydym wedi creu’r polisi hwn fel y gallwch ddychwelyd nwyddau atom dan amgylchiadau priodol.

1.3 Bydd y polisi hwn yn berthnasol i’n holl gwsmeriaid, heb ystyried eu lleoliad daearyddol.

1.4 Bydd y polisi hwn yn berthnasol i bob archeb a gyflwynir drwy’n gwefan.

1.5 Nid yw’r ddogfen hon yn effeithio ar unrhyw hawliau statudol a all fod gennych fel defnyddiwr (fel hawliau o dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013 neu Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015).

2. Dychwelyd nwyddau

2.1 Os nad oes gennych hawl gyfreithiol arall i ddychwelyd nwyddau a derbyn ad-daliad neu gyfnewid y nwyddau, yna bydd gennych hawl er hynny i ddychwelyd nwyddau atom a derbyn ad-daliad yn unol â’r polisi hwn:

(a) os ydym yn derbyn y nwyddau a ddychwelir o fewn 14 diwrnod i ddyddiad dosbarthu’r nwyddau i chi;

(b) os yw’r nwyddau a ddychwelir heb eu defnyddio, yn eu deunydd pacio gwreiddiol heb ei agor (gydag unrhyw sêl neu ddeunydd lapio tynn heb ei dorri), gydag unrhyw labeli yn dal i fod arnynt, ac mewn cyflwr a fydd yn ein galluogi i werthu’r nwyddau fel newydd;

(c) os ydych yn cydymffurfio â’r weithdrefn a eglurir yn y polisi hwn mewn perthynas â dychwelyd y nwyddau; ac

(d) os nad oes unrhyw un o’r eithriadau a nodir yn y polisi hwn yn berthnasol.

3. Gweithdrefn dychwelyd nwyddau

3.1 Er mwyn manteisio ar eich hawliau o dan y polisi hwn rhaid i chi gysylltu â ni i gael rhif awdurdodi dychwelyd nwyddau, yna anfon y nwyddau atom gyda nodyn eglurhaol yn nodi’r rhif hwnnw.

3.2 Rhaid anfon nwyddau o dan y polisi hwn, yn y DU, drwy’r Post Brenhinol i Flwch Swyddfa’r Post 123, Cil-y-coed, NP26 9BH.

3.3 Os yw’r pecyn yn cael ei ddychwelyd heb ei agor oherwydd bod y prynwr wedi newid ei feddwl, bydd y prynwr yn talu costau postio sy’n gysylltiedig â dychwelyd y nwyddau yn unol â’r polisi hwn.

4. Ad-daliadau

4.1 Byddwn yn rhoi ad-daliad i chi am y pris a dalwyd gennych i ni am unrhyw nwyddau a ddychwelir yn briodol gennych chi yn unol â’r polisi hwn.

4.2 Fel arfer, byddwn yn ad-dalu unrhyw arian a dderbyniwyd gennych chi gan ddefnyddio’r un dull a ddefnyddiwyd gennych chi i dalu’n wreiddiol.

4.3 Byddwn yn prosesu’r ad-daliad sy’n ddyledus i chi cyn gynted â phosibl ac, beth bynnag, o fewn 30 diwrnod yn dilyn y dyddiad y derbyniom eich nwyddau a ddychwelwyd.

5. Dychwelyd nwyddau amhriodol

5.1 Os ydych yn dychwelyd nwyddau mewn modd sy’n mynd yn groes i’r polisi hwn ac nad oes gennych hawl gyfreithiol arall i gael ad-daliad neu i gyfnewid y nwyddau:

(a) ni fyddwn yn ad-dalu’r pris prynu nac yn cyfnewid y nwyddau;

(b) gallwn gadw’r nwyddau a ddychwelwyd nes eich bod chi’n talu unrhyw swm ychwanegol i ni y gallem ei godi ar gyfer ail-ddanfon y nwyddau a ddychwelwyd; ac

(c) os nad ydym yn derbyn taliad o swm ychwanegol o’r fath o fewn 14 diwrnod i wneud cais am daliad, gallwn ddifa neu waredu’r nwyddau a ddychwelwyd fel arall yn unol â’n disgresiwn llwyr heb unrhyw atebolrwydd i chi.

6. Ein manylion

6.1 Mae’r wefan hon yn eiddo i Babi Bw Ltd ac yn cael ei rhedeg ganddo.

6.2 Ein prif leoliad busnes yw Blwch Swyddfa Bost 123, Cil-y-coed, NP26 9BH.

6.3 Gallwn gysylltu â ni:

(a) drwy’r post, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post uchod;

(b) drwy ddefnyddio’n ffurflen gysylltu ar y wefan;

(c) dros y ffôn, ar y rhif cyswllt sydd ar ein gwefan;

(d) drwy e-bost, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost sydd ar ein gwefan.