Delivery Policy
1. Introduction
1.1 In this policy we set out details of the delivery methods, periods and charges that apply to orders for our products made through our website www.babibw.co.uk.
1.2 This policy is a legally binding document, and this policy shall form part of the contract of sale between you and us made under our terms and conditions of sale.
2. Delivery charges
2.1 All orders will be subject to delivery charges as detailed in Section 5.
3. Delivery methods and periods
3.1 The methods that we use to deliver our products, and the time periods within which delivery is usually completed, are as follows:
(a) If your delivery address is on the United Kingdom mainland, you will be able to select a delivery method.
4. Delivery charges
4.1 Delivery charges will be quoted by us.
4.2 Applicable delivery charges will depend upon the delivery method you select, the location of the delivery address, and the size and weight of the products in your order.
4.3 Our current delivery charges within the UK are outlined on our website. However international delivery costs will be quoted on receiving a request for an international delivery.
5. Delivery tracking
5.1 Delivery tracking is available at an additional cost.
6. Receipt and signature
6.1 All deliveries must be received in person at the delivery address, and a signature must be provided.
7. Collection
7.1 If your products remain undelivered despite our delivery service provider attempting to deliver them, the delivery service provider will leave a card at your address, with instructions on how you may collect or arrange a further delivery of your products.
8. Delivery problems
8.1 If you experience any problems with a delivery, please contact us using the contact details that we publish on our website or otherwise notify to you.
8.2 If our delivery service provider is unable to deliver your products, and such failure is your fault, we may agree to arrange for re-delivery of the products; however, we reserve the right to charge you for the actual costs of re-delivery.
8.3 An indicative list of the situations where a failure to deliver will be your fault is set out below:
(a) you provided the wrong address for delivery;
(b) there is a mistake in the address for delivery that was provided;
(c) the address for delivery is not reasonably accessible;
(d) the address for delivery cannot safely be accessed;
(e) if in-person receipt is not required, there is no easy and secure means of leaving the products at the address for delivery and there is no person available to accept delivery; or
(f) if in-person receipt is required, there is no person available at the address for delivery to accept delivery and provide a signature.
Polisi Dosbarthu Nwyddau
1. Cyflwyniad
1.1 Yn y polisi hwn rydym yn nodi manylion y dulliau, y cyfnodau a’r costau dosbarthu sy’n berthnasol i archebion am ein nwyddau a wneir drwy ein gwefan www.babibw.co.uk.
1.2 Mae’r polisi’n ddogfen sy’n rhwymo mewn cyfraith, a bydd y polisi hwn yn rhan o’r contract gwerthu rhyngoch chi a ni a wneir o dan ein telerau ac amodau gwerthu.
2. Costau dosbarthu
2.1 Bydd rhaid talu costau dosbarthu ar bob archeb – fel y nodir yn Adran 5.
3. Dulliau a chyfnodau dosbarthu
3.1 Mae’r dulliau a ddefnyddiwn i ddosbarthu ein nwyddau, a’r cyfnodau dosbarthu arferol fel a ganlyn:
(a) Os yw eich cyfeiriad dosbarthu ar dir mawr y Deyrnas Unedig byddwch yn gallu dewis dull dosbarthu.
4. Costau dosbarthu
4.1 Byddwn yn nodi beth yw’r costau dosbarthu.
4.2 Bydd y costau dosbarthu’n dibynnu ar y dull dosbarthu a ddewiswch, lleoliad y cyfeiriad yr anfonir y nwyddau iddo, a maint a phwysau’r nwyddau yn eich archeb.
4.3 Amlinellir ein costau dosbarthu cyfredol o fewn y DU ar ein gwefan. Fodd bynnag, byddwn yn nodi’r costau dosbarthu rhyngwladol wrth gael cais am anfon nwyddau dramor.
5. Dilyn eich archeb
5.1 Mae’n bosibl dilyn eich archeb drwy dalu taliad ychwanegol.
6. Derbyn a llofnod
6.1 Mae’n rhaid i rywun dderbyn y nwyddau yn y cyfeiriad yr anfonir nhw iddo a rhaid llofnodi amdanynt.
7. Casglu
7.1 Os na fydd eich nwyddau yn eich cyrraedd er bod ein darparwr gwasanaeth dosbarthu wedi ceisio eu dosbarthu, bydd yn gadael cerdyn yn eich cyfeiriad, gyda chyfarwyddiadau ar sut i gasglu eich nwyddau neu drefnu i’ch nwyddau gael eu dosbarthu eto.
8. Problemau dosbarthu
8.1 Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda threfniadau dosbarthu, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion cysylltu ar ein gwefan neu a roddwn i chi fel arall.
8.2 Os na fydd ein darparwr gwasanaeth dosbarthu’n gallu dosbarthu eich nwyddau, ac mai chi sydd ar fai am hynny, gallwn gytuno i ail-ddosbarthu’r nwyddau; ond rydym yn cadw’r hawl i godi tâl arnoch am gostau gwirioneddol ail-ddosbarthu.
8.3 Mae rhestr o’r sefyllfaoedd posibl lle mai chi sydd ar fai am fethiant i ddosbarthu i’w gweld isod:
(a) rydych wedi darparu’r cyfeiriad dosbarthu anghywir;
(b) mae yna gamgymeriad yn y cyfeiriad dosbarthu a ddarparwyd;
(c) nid yw’r cyfeiriad dosbarthu’n rhesymol hygyrch;
(d) ni ellir cyrraedd y cyfeiriad dosbarthu’n ddiogel;
(e) os nad oes gofyn i rywun dderbyn y nwyddau’n bersonol, nid oes dull hawdd a diogel o adael y nwyddau yn y cyfeiriad dosbarthu ac nid oes unrhyw un yno i dderbyn y nwyddau;
(f) os oes gofyn i rywun dderbyn y nwyddau, nid oes neb yn y cyfeiriad dosbarthu i dderbyn y nwyddau a llofnodi.